°¬˛ćAƬ

Ydych chi’n Cadw Lan gyda’r Teulu Jones?

Ydych chi yn ailgylchu? Os nad ydych yn gwneud hynny eto, gadewch i ni eich helpu i ddechrau arni neu gallech wynebu Cost Sefydlog o ÂŁ100.

Mae Cadw Lan gyda’r Teulu Jones yn ymgyrch i sicrhau fod pob cartref ym Mlaenau Gwent yn ailgylchu. Nod yr ymgyrch yw targedu’r nifer fach o bobl nad ydynt yn ailgylchu o gwbl neu’n ailgylchu ychydig iawn. Mae cartrefi nad ydynt yn dechrau ailgylchu ac yn dal i roi eitemau y gellid eu hailgylchu i mewn yn eu biniau a bagiau du yn wynebu Dirwy Cosb Sefydlog o £100.

Os nad yw preswylydd yn talu’r ddirwy cosb sefydlog o £100, cymerir camau cyfreithiol pellach drwy’r Llys Ynadon, lle gellir codi dirwy fwy sylweddol ar y preswylydd.

Nid ydym yn dymuno cyhoeddi Hysbysiadau Cosb Sefydlog, ond nid yw’n deg ar y gymuned i gyd os yw rhai cartrefi yn methu ailgylchu. Ymunwch â’ch cymdogion i wneud hyn ar gyfer eich cymuned.

Rydym yn parhau i fonitro ardaloedd yng nghyswllt ymgyrch “Cadw Lan gyda’r Teulu Jones”, i sicrhau fod preswylwyr yr awdurdod yn manteisio ar bob cyfle i ailgylchu lle bynnag sy’n bosibl.

Rydym yn annog y rhai nad ydynt yn ailgylchu i beidio aros am y llythyr rybudd, ond i fynd ati i ailgylchu yn syth.

Gallwch osgoi Hysbysiad Cosb Sefydlog drwy ailgylchu. Mae’r rhan fwyaf o bobl ym Mlaenau Gwent a ledled Cymru eisoes yn ailgylchu – dyma’r amser i chi ymuno â nhw.

Os nad ydych yn ailgylchu nawr, dyma’r amser i ddechrau. Gallwn eich helpu.

Cysylltwch â ni os ydych angen:

  • Cyngor ar yr hyn y gallwch ac na allwch ei ailgylchu
  • Gwybodaeth ar y diwrnod casglu (ar gyfer ailgylchu a sbwriel)
  • Gofyn am flychau ychwanegol neu flychau newydd
  • Unrhyw gymorth arall, cyngor a gwestiynau a all fod gennych neu eu hangen

Cysylltwch â C2BG ar 01495 311556 neu drwy Cyngor Gwefan

Dolenni (tudalennau gwefan arall)