°¬²æAƬ

Pas bws pobl anabl

Os ydych yn byw yn ardal °¬²æAƬ ac yn 60 oed neu drosodd; yna mae gennych hawl awtomatig i bas bws.

Os ydych dan 60 oed, mae'n rhaid i chi gyflawni un o'r meini prawf dilynol i fod yn gymwys am Bas Bws i'r Anabl:-

Ìý

  • Derbyn Lwfans Byw i'r Anabl (gydag elfen symudedd cyfradd uwch);
  • Derbyn Taliad Annibyniaeth Personol - PiP (cyfradd estynedig yr elfen Symudedd);
  • Derbyn atodiad symudedd pensiynwr rhyfel;
  • Wedi cofrestru'n ddall, yn rhannol ddall, yn hollol fyddar neu'n ddifrifol fyddar;
  • Bod heb freichiau neu ddim yn gallu defnyddio'r ddwy fraich;
  • Bod heb leferydd;
  • Wedi cofrestru gydag anabledd dysgu;
  • Methu gyrru car modur oherwydd cyflwr meddygol heblaw ar sail camddefnydd parhaus o gyffuriau neu alcohol.

Os gallwch gyflawni'r meini prawf uchod ac y gallwch roi tystiolaeth i gefnogi hyn, bydd gennych hawl i bas. Bydd pas yn eich galluogi i deithio am ddim ar bob gwasanaeth bws lleol. Bydd eich pas teithio am ddim yn ddilys drwy'r dydd, bob dydd o ddyddiad ei gyhoeddi ym Mlaenau Gwent, a hefyd ar gyfer teithio ledled Cymru.

Ble a phryd y gallaf ddefnyddio fy mhas?

Bydd eich pas yn ddilys ar gyfer teithiau ar draws y ffin i Loegr cyn belled nad ydych yn torri ei taith a'i bod yn dechrau neu gorffen yng Nghymru.

Pas Cydymaith

Os nad ydych yn gallu teithio'n annibynnol ac angen cymorth i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gall consesiwn ychwanegol gael ei gyhoeddi os ydych angen cydymaith teithio. Bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth feddygol annibynnol i gefnogi hynÌý e.e. elfen gofal cyfradd uchel y Lwfans Byw i'r Anabl neu gyfradd uwch o'r elfen Byw Dyddiol y Taliad Annibynniaeth Personol (PiP).

A fydd yn rhaid i mi dalu am fy mhas?

Caiff eich pas teithio ei gyhoeddi'n rhad ac am ddim fodd bynnag codir £5.00 am basiau yn lle rhai a gollwyd.

Sut mae defnyddio fy mhas?

Mae teithio yn defnyddio eich pas yn amodol ar reolau a rheoliadau'r gweithredwyr sy'n darparu'r gwasanaeth. Bydd angen i chi ddangos eich pas i'r gyrrwr pan ewch ar y bws er mwyn derbyn eich consesiwn.

Rhaid ei ddangos i'r arolygydd os gofynnir am hynny. Bydd methu dangos eich pas yn arwain at i'r consesiwn gael ei wrthod a chodi pris y tocyn am y daith. Nid yw'r pas yn rhoi unrhyw hawliau i chi heblaw y rhai a fwynheir gan unrhyw deithwyr sy'n talu am eu tocynnau.

Mae eich pas yn parhau yn eiddo Cyd-uned Trafnidiaeth Teithwyr Gwent a gall y Cyngor neu'r gweithredwyr ei ddileu os caiff ei ddefnyddio.

Sut mae cael fy mhas?

Ffoniwch Dîm Atgyfeirio Dyletswydd Cyngor °¬²æAƬ ar Ffôn 01495 742744Ìýa all anfon ffurflen gais atoch os ydych yn cyflawni'r meini prawf.

Bydd angen i chi roi'r tystiolaeth ddilynol i gefnogi eich cais:

Ìý

  • Ffotograff diweddar maint pasport (wyneb llawn)
  • Tystiolaeth o hawl
  • Os ydych yn derbyn Lwfans Byw i'r Anabl (gydag elfen symudedd graddfa uwch) neu Daliad Annibyniaeth Personol - PiP (cyfradd uwch yr elfen Symudedd); bydd angen i chi ddangos eich llythyr dyfarniad hawl dilys (wedi'i ddyddio o fewn y flwyddyn ddiwethaf)
  • Os ydych wedi cofrestru'n ddall, yn rhannol ddall neu'n hollol fyddar, bydd angen i chi gael tystiolaeth o hyn
  • Os nad oes gennych leferydd neu heb ddefnydd y ddwy fraich bydd angen i chi gyflenwi tystiolaeth feddygol i gefnogi eich cais
  • Os nad ydych yn gallu gyrru oherwydd cyflwr meddygol bydd angen i chi gyflenwi llythyr dilysu gan y DVLA neu eich meddyg
  • Os oes gennych anabledd dysgu; bydd angen i dîm Anableddau Dysgu °¬²æAƬ fod yn gwybod amdanoch a bod gennych weithiwr penodol.

Ìý

Ìý

Prosesu Ceisiau

Caiff pob cais eu prosesu gan:

Integrated Transport Unit
Ty Blaen Torfaen
Panteg Way
New Inn
Pontypool, NP4 0LS

Ffôn 01495 742744

Ìý

Ìý

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor neu gymorth, neu i wneud atgyfeiriad neu roi adroddiad am brydeorn yng nghyswllt:

  • person 18 oed neu drosodd cysylltwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â Hyb IAA Gwasanaethau Plant.

Ffôn: 01495 315700
E-bost :ÌýDutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer ymholiadau gwybodaeth gyffredinol:
E-bost : info@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffôn: 01495 354680
Ffacs: 01495 355285

Ìý

Ìý