Ym Mlaenau Gwent, bydd gan bob plentyn, person ifanc a’u rhieni y cyfle i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Bydd ganddynt fynediad at wasanaethau sy’n bodloni eu hanghenion a’r cyfle i lunio sut mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu cynllunio a’u cyflwyno.
"Mae cyfranogiad yn golygu bod hawl gennyf i fod yn rhan o wneud penderfyniadau, cynllunio ac adolygu gweithred allai effeithio arnaf. Cael llais, cael dewis."
"Proses yw cyfranogiad, nid digwyddiad, a’r canlyniad yw grymuso". (Crowley, A. 2004)
-
Cyfranogiad Plant
Mae plant a phobl ifanc yn cynrychioli tua thraean o boblogaeth y Fwrdeistref. Mae darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fynegi’u barn a chael gafael ar wybodaeth yn hanfodol i waith Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc °¬²æAƬ. 
Mae Uwch Gyngor Plant wedi’i sefydlu ym Mlaenau Gwent i alluogi disgyblion o oedran ysgol gynradd i gael dweud eu dweud ar faterion sy’n effeithio arnynt.
Mae pob Ysgol Gynradd ym Mlaenau Gwent wedi ethol dau gynrychiolydd o’u cynghorau ysgol i eistedd ar yr Uwch Gyngor, a fydd yn cwrdd unwaith bob tymor ysgol.
O’r 1af o Dachwedd 2006, mae’n rhaid i bob ysgol yng Nghymru gael ei gyngor ysgol ei hun yn cynnwys cynrychiolwyr a ddewiswyd gan gyd ddisgyblion. Mae hyn yn sgil Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed, sydd wedi cael ei lofnodi gan 192 gwlad.
Bydd Uwch Gyngor Plant °¬²æAƬ hefyd yn sefydlu cysylltiadau agor gyda Talk It Up, Fforwm Ieuenctid hynod lwyddiannus Blaenau Gwent.
Am ragor o wybodaeth am hawliau plant, edrychwch ar rai o’r dolenni gyferbyn.
Cyfranogiad Pobl Ifanc
Mae’r Fforwm Ieuenctid yn ymwneud â ‘Rhoi Llais i Bobl Ifanc’. Mae’n darparu cyfleoedd i bobl ifanc sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol °¬²æAƬ i gael llais ar y materion sy’n effeithio arnynt ac i fod yn weithgar yn y broses o wneud penderfyniadau lleol. .
Dylai pobi ifanc â diddordeb mewn ymuno â’r Fforwm Ieuenctid fod:
-
Rhwng 11-25 oed
-
Yn byw ym Mwrdeistref Sirol °¬²æAƬ
-
Eisiau cael rhywun i wrando ar eu barn a gwneud gwahaniaeth
-
Eisiau dylanwadau ar benderfyniadau ar wasanaethau lleol
-
Eisiau cwrdd â phobl newydd a dysgu pethau newydd
-
Eisiau cael hwyl!
Gwybodaeth Gyswllt
Enw’r Tîm: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Ffôn: 01495 369610.
neu
Cyfeiriad e-bost: fis@blaenau-gwent.gov.uk