Dechrauân Deg ywâr rhaglen a ariannir gan Lywodraeth Cymru, syân darparu gwasanaethau cefnogaeth dwys i deuluoedd gyda phlant rhwng 0-3 mlwydd oed, syân byw mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru.
Mae TĂŽm Dechrauân Deg °Ź˛ćAĆŹ yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn cynnig anogaeth, gwybodaeth a chyfarwyddyd i gefnogi rhieni/gofalwyr ar bob cam o ddatblygiad eu plentyn; darparu cyfleoedd, gweithgareddau a rhaglenni am ddim i ganiatĂĄu i bob plentyn ddatblygu eu sgiliau iaith a chymdeithasol aâu datblygiad emosiynol a chorfforol er mwyn bod yn barod cychwyn ysgol.
Pwy syân gymwys ar gyfer Dechrauân Deg?
Maeâr rhaglen ar gael i bob plentyn cymwys aâu teuluoedd yn yr ardaloedd canlynol o Flaenau Gwent (Cyfnod Un âCyn Dalgylchoedd Ysgolion Cynradd 2006-2011):
-
Sirhywi
-
Deighton
-
St Illtyd's
-
Garnlydan
-
Swffrydd
Yn ychwanegol at yr uchod, fe estynnwyd Dechrauân Deg i ardaloedd newydd gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru a chymunedau dynodedig trwy ffiniau ardaloedd daearyddol oâr enw LSOAâs (Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is).
Rhwng 2012 a 2015, fe estynnwyd rhaglen Dechrauân Deg i gynnwys y LSOAâs canlynol:
-
Gogledd Glynebwy 2 (Hilltop)
-
De Glynebwy 1 (Briery Hill)
-
Cwmtyleri 1 (Roseheyworth)
-
Nant-y-glo 3 (CoedCae)
Yn 2015/16 â Roedd estyniad pellach o raglen Dechrauân Deg i gynnwys 2 Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is newydd
-
Cwm 2 (o fis Tachwedd 2015)
-
Abertyleri 1 (o fis Mawrth 2016)
O fis Mawrth 2016, mae Dechrauân Deg ar gael i draean o Fwrdeistref Sirol °Ź˛ćAĆŹ.
I gadarnhau os ydych yn gymwys am le teulu o fewn ardal Dechrauân Deg, cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01495 369610.
Beth mae Dechrauân Deg yn golyguân ymarferol:
Mae 4 elfen graidd i raglen Dechrauân Deg sydd wedi cael eu tynnu o amrediad o opsiynau sydd â thystiolaeth eu bod yn cael dylanwad cadarnhaol ar ganlyniadau ar gyfer plant aâu teuluoedd.âŻ
-
Gwell gwasanaeth ymweliadau iechyd
Mae Ymwelwyr Iechyd Dechrauân Deg yn darparu gwasanaeth ymweliadau iechyd dwys i bob teulu dilys a gyda chymorth Gweithwyr Cymorth Ymweliadau Iechyd mae ganddynt y gallu i ymweld â theuluoedd yn fwy aml a darparu cymorth un i un yn y cartref.
Yn ddiweddar mae Dechrauân Deg wedi cyflwyno rhaglenni a gwasanaethau cynenedigol newydd, gydaâr nod o gysylltu â phob mam feichiog syân mynychu ein Clinig Bwcio Cynenedigol. Mae cyswllt cynnar yn hyrwyddo iechyd a lles ar gyfer y fam aâr plentyn yn ystod beichiogrwydd a thu hwnt. Mae pob teulu Dechrauân Deg yn cael eu cefnogi i ddatblygu a bondio gydaâu babi, gan gefnogiâr fam yn benodol gydaâi hiechyd emosiynol a meddyliol. Mae Dechrauân Deg yn darparu clinigau babanod hygyrch lleol, gan hyrwyddo imiwneiddiadau, rhoi cyngor cyffredinol ar iechyd babanod, bwydo oâr fron, diddyfnu, creu trefn feunyddiol a phatrymau cysgu.
Mae cyrsiau Tylino Babanod ar gael, gan roi gwybodaeth i rieni am fondio gydaâr babi a chreu cyswllt syân gallu helpu lleddfu a chysuro babi yn ystod salwch, torri dannedd neu dwf cyffredinol. Maeâr Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd yn parhau hyd at 4 blwydd oed pan mae gofal iechyd y plentyn yn cael ei drosglwyddo i nyrs yr ysgol pan maeâr plentyn yn cychwyn yn yr ysgol.
-
Mynediad at Raglenni Magu Plant
Mae rhieni syân byw mewn ardaloedd Dechrauân Deg yn cael eu cefnogi ymhellach trwy gael y cyfle i fynychu amrediad o raglenni magu plant, gydaâr nod o roiâr sgiliau iddynt fagu plant yn effeithiol. Mae rhai cyrsiau yn arbennig ar gyfer rhieni newydd gyda babanod newydd anedig er mwyn annog bondio a chreu cyswllt gydaâr babi. Wrth iâr plentyn dyfu, mae rhaglenni pellach ar gael syân adeiladu hyder rhieni i ddelio gydag ymddygiad eu plentyn, hyrwyddo modd positif o fagu plant, creu ymagweddau positif ac adeiladu perthnasau iachus gydaâr plant. Ymhlith y cyrsiau sydd ar gael mae:
-
Cyswllt Teuluol, Rhaglen Cynenedigol âCroeso iâr Bydâ â Cefnogi rhieni newydd gyda rhai oâr anawsterau gallant eu hwynebu a chefnogaeth i ddod i adnabod eich babi newydd
-
Rhaglen Babanod y Blynyddoedd Rhyfeddol â ar gyfer rhieni newydd gyda babanod newydd anedig a phlant hyd at 12 mis oed
-
Rhaglen Plant Bach y Blynyddoedd Rhyfeddol â Er mwyn i rieni ddysgu sut i annog datblygiad iaith, cymdeithasol ac emosiynol eu plentyn bach
-
Rhaglen Meithrin Cysylltiadau Teuluol â Yn cefnogi teuluoedd i adeiladu perthnasau cadarnhaol, cyfathrebu a rheoli ymddygiad positif o fewn y teulu.
Mae amrediad o raglenni pwrpasol ar gael trwy hybiau lleol Dechrauân Deg neu trwy gyflwyniadau cartref, syân cynnig cefnogaeth wediâi deilwra i fodloni anghenion pob teulu.
Mae gwahanol weithdai a sesiynau hefyd ar gael ar gyfer rhieni Dechrauân Deg syân gallu bod yn fuddiol iawn, yn eu plith mae:
-
Delio gyda phyliau o dymer ddrwg
-
Curo Straen
-
Rheoli ymddygiad plant
-
Babi newydd yn y teulu
-
Cychwyn yn yr ysgol
-
Magu plant ar Ă´l gwahanu
-
Cefnogi plant trwy newid a cholled
-
Bwytaân iach a choginio ar gyllideb
Cefnogaeth Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu
-
Cefnogaeth Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu
Rhieni yw athro cyntaf babi a phlentyn ifanc.
Mae Dechauân Deg yn cefnogi rhieni i feithrin cyfathrebu ac awyrgylch iaith gryf i wella datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu plentyn a dysgu i siarad. Maeâr blynyddoedd o enedigaeth i 3 mlwydd oed yn hanfodol o ran datblygu angen cynyddol plentyn i gyfathrebu.
Mae tystiolaeth yn dangos bod gallu lleferydd, iaith a chyfathrebu yn ddaroganwr pwysig o gynnydd diweddarach mewn llythrennedd ac maeân effeithio ar sgiliau cymdeithasol yn ogystal ag ymddygiad plant aâu parodrwydd ar gyfer yr ysgol.
O fewn °Ź˛ćAĆŹ rydym yn cynnig amrediad o raglenni a gwasanaethau i adnabod anghenion, darparu cefnogaeth a hyrwyddo lleferydd, iaith a chyfathrebu cadarnhaol o fewn teuluoedd trwy ein tĂŽm o Weithwyr Iaith Cynnar, yn eu plith mae:
Iaith a Chwarae Cynenedigol -⯠i ddarparu darpar rieni â dealltwriaeth o sut i gyfathrebu gydaâu babi cyn genedigaeth, yn ogystal ag amrediad o sgiliau i gefnogi datblygiad addysgol cynnar eu babi o ddiwrnod eu genedigaeth.
Elklan âGadewch i ni siarad ââch babiâ â ar gyfer rhieni gyda babanod 3-12 mis oed â gan ddarparu awyrgylch cyfathrebu cryf trwy weithgareddau rhyngweithiol, hwylus.
Plant yn ChwaraeâŻââŻy nod yw cyflwyno strategaethau datblygiad iaith ac arddulliau o ryngweithio i rieni i gefnogi plant syân hwyr yn datblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu.
Elklan âGadewch i ni siarad â sawl o dan 5â â y nod yw darparu rhieni a gofalwyr â chyfleodd i drafod syniadau i helpu eu plant i ddysgu gwrando, deall a siarad, yn ogystal â darparu gwybodaeth ar ddatblygiad lleferydd ac iaith arferol ynghyd ag anawsterau cyfathrebu mae plant yn gallu eu cael.
Therapyddion Lleferydd ac Iaith Dechrauân Deg â ar gael i gefnogi teuluoedd aâu plant ar sail un i un yn eu cartref neu fel rhan o sesiwn grĹľp ble mae plant wedi cael eu hadnabod fel rhai syân oedi yn eu datblygiad neu iaith. Yn aml iawn mae plant yn gallu dod yn rhwystredig os oes ganddynt broblemau iaith a lleferydd, ond mae gwneud rhai newidiadauân gallu eu helpu i wneud llawer o gynnydd.
Pecyn rhieni Dechrauân Deg: hwiangerddi
Fel rhan o'r ymgyrch 'Bwydo ar y Fron °Ź˛ćAĆŹ' lluniwyd adroddiad i amlinellu nodau, cyflawniadau a chamau'r rhaglenni nesaf.
BLAENAU GWENT YN BWYDO AR Y FRON ADRODDIAD â Mehefin 2024
-
Gofal plant am ddim, o ansawdd ar gyfer plant 2-3 mlwydd oed
Mae gan blant syân byw mewn cartrefi cymwys (yn dibynnu ar y cod post) o fewn ardaloedd Dechrauân Deg hawl i ofal plant rhan amser am 2.5 awr y diwrnod (12.5 awr yr wythnos), dydd Llun i ddydd Gwener am 42 wythnos y flwyddyn.
Mae Athro Cynghorol Blynyddoedd Cynnar Dechrauân Deg yn gweithio gyda phob lleoliad gofal plant Dechrauân Deg o fewn y Fwrdeistref Sirol er mwyn datblygu cynlluniau cwricwlwm a gweithgareddau addas syân ysgogi datblygiad plant dwy flwyddyn oed. Maeâr pwyslais ar osod safonau syân cynhyrchu darpariaeth gofal plant âo ansawddâ ar draws yr 11 lleoliad syân darparu gofal plant.
Gweler isod am fanylion yr holl Ddarparwyr Gofal Plant Dechrauân Deg o fewn °Ź˛ćAĆŹ.
Darparwyr Gofal Plant Dechrauân Deg
Mae Darparwyr Dechrauân Deg yn gymysgedd o ddarparwyr lleol a lleoliadauâr awdurdod lleol, fodd bynnag, mae pob un yn cynnig gofal plant oâr un ansawdd uchel ar wahanol adegau, o ddydd Llun i ddydd Gwener:
Awdurdod Lleol:
-
Swffryd Sunflowers â Adeilad Meithrin, Ysgol Gynradd Swffryd, Swffryd Road, NP11 5WD
Lleoliad Saesneg gydag elfennau oâr iaith Gymraeg - 9.15 i 11.45
-
Twinkle Tots â Hwb Dechrauân Deg Garnlydan, Commonwealth Road, Garnlydan, NP23 5ER
Lleoliad Saesneg gydag elfennau oâr iaith Gymraeg - 9.15 to 11.45
-
First Friends â Canolfan Dechrauân Deg, Attlee Way, Cefn Golau, Tredegar, NP22 3TE
Lleoliad Saesneg gydag elfennau oâr iaith Gymraeg â 9.15 i 11.45 a 12.30 i 3.30
Meithrinfeydd Dydd Preifat:
-
Tweenie Tots - Canolfan Ieuenctid Brynteg, Brynteg Terrace, Hilltop, Glynebwy, NP23 6NA
Lleoliad Saesneg gydag elfennau oâr iaith Gymraeg â 9.15 i 11.45 a 12.45 i 3.15
-
Mini Meâs â Rose Heyworth Ysgol Gynradd y Mileniwm, Abertyleri, NP13 1SR
Lleoliad Saesneg gydag elfennau oâr iaith Gymraeg â 9.15 i 11.45 a 1.00 i 3.30
-
Penrhiw Nursery â Canolfan Plant y Cymoedd Canol, High Street, Blaina,
NP13 3BN
Lleoliad Saesneg gydag elfennau oâr iaith Gymraeg â 9.30-12.00 a 1.30 â 3.30
-
Little Stars â ICC Glynebwy, Strand Annealing Lane, Glynebwy, NP23 6AN
Lleoliad Saesneg â 9.00-11.30 a 1.00 i 3.30
-
Jack and Jillâs â (yn agor yn hwyr yn 2016) Hwb Dechrauân Deg Abertyleri, Safle Ysgol Gyfun Abertyleri, Alma Street, Abertyleri, NP13 1YL
Lleoliad Saesneg gydag elfennau oâr iaith Gymraeg â9.15 i 11.45
Gwirfoddol:
-
Cylch Meithrin Pobl Bach â Hwb Dechrauân Deg Sirhywi, Rhoslan, Tredegar, NP22 4PG
Lleoliad cyfrwng Cymraeg â 9.15 i 11.45 a 12.30 i 3.30
-
Cylch Meithrin Helyg Bychan â Ysgol Gymraeg Bro Helyg, Ystâd Ddiwydiannol Rising Sun, Blaina, NP13 3DQ
Lleoliad Cymraeg a Saesneg â 9.00 i 11.30 a 12.45 i 3.15
-
Cylch Meithrin Gwdi Hw â Hwb Dechrauân Deg Brynithel, Penrhiw, Brynithel, Abertyleri NP13 2GZ
Lleoliad cyfrwng Cymraeg â 9.15 i 11.45
Ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01495 369610 i weld a ydych yn gymwys am unrhyw un oâr gwasanaethau am ddim hyn ac i wirio am argaeledd lleoedd gofal plant gwag.
Gallwch hefyd ddod o hyd i ddiweddariadau a gwybodaeth ar:
śŮ´Çąôąđ˛Ô&˛Ô˛ú˛őąč;šó˛šłŚąđ˛ú´Ç´Ç°ěâ&˛Ô˛ú˛őąč;
Dolen Twitter - @bgfis
Gwefan:www.bgfis.org.uk
E-bost: fis@blaenau-gwent.gov.uk
Gwybodaeth Gyswllt
Enwâr TĂŽm: Rheolwr Rhaglen Dechrauân Deg
Rhif FfĂ´n: 01495 354786
Cyfeiriad: Canolfan Plant Integredig Y Cymoedd Canol, High Street, Blaina, °Ź˛ćAĆŹ, NP13 3BN
Cyfeiriad e-bost: Sherelle.jago@blaenau-gwent.gov.uk