°¬²æAƬ

Gwybodaeth ar gyfer Darparwyr

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru (30 awr o Ofal Plant) – Diweddariad Tachwedd 2022

Bydd y Cynnig Gofal Plant i Gymru yn agor eto ar gyfer ceisiadau yn ystod Gorffennaf, Awst a Medi.

Bydd rhieni sydd â phlant yn dod yn gymwys ar gyfer y Cynnig ym mis Medi (plentyn yn troi’n dair oed cyn 31 Awst 2019) yn cael gwneud cais o’r 4ydd o Orffennaf. Noder na fydd modd derbyn y cyllid nes bod y cais wedi’i gwblhau a dyddiad dechrau wedi’i gyhoeddi. Ni chaiff y cyllid ei ôl-ddyddio.Ìý

Os ydy penblwydd eich plentyn rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr 2022, gwnewch eich cais trwy System Ddigidol Cymru newydd (gweler y ddolen-gyswllt isod):

Ìý

Beth ydy Cynnig Gofal Plant Cymru?

Bydd y Cynnig Gofal Plant yn darparu, i rieni sy’n gweithio, 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i rai tair a phedair oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Bydd y cynnig yn adeiladu ar hawliad addysg gynnar presennol plant yn ystod amser tymor, a darparu 30 awr o ofal plant am naw wythnos o’r gwyliau.

Beth mae’n ei olygu i mi fel darparwr?

A chymryd eich bod wedi’ch cofrestru gydag AGC, fe allech chi dderbyn cyllid i blant cymwys sy’n gwneud defnydd o’r cynnig yn eich lleoliad.

A oes gofyn i mi fod wedi fy lleoli mewn ardal beilot i fod ynghlwm â gweithredu’r cynnig yn gynnar?

Nac oes. Mae’n rhaid i rieni fod yn gymwys a byw mewn ardal beilot i gael defnydd o’r cynnig. Fodd bynnag, mae elfen gofal plant y cynnig yn dibynnu ar ddewis rhieni a gall unrhyw leoliad gofal plant cofrestredig ei gyflenwi, waeth ble mae’r lleoliad.

A oes angen imi gyflenwi’r Cyfnod Sylfaen i gyflenwi elfen gofal plant y cynnig?

Nac oes. Bydd rhai plant yn parhau i wneud defnydd o addysg gynnar mewn lleoliadau a gynhelir. Does dim angen i ddarparwyr gofal plant gyflenwi’r ddwy elfen, sef addysg gynnar a gofal plant, i’r cynnig.

A oes angen mi allu cyflenwi’r cynnig am 48 wythnos y flwyddyn er mwyn cymryd rhan?

Nac oes. Gall rhieni wneud defnydd o’r cynnig trw wahanol ddarparwyr sy’n gweddu orau i’w hamgylchiadau. Gall darparwyr sydd ond yn cynnig darpariaeth yn ystod y tymor, neu ddarpariaeth yn ystod gwyliau ysgol yn unig, barhau i gyflenwi’r cynnig, gan ddibynnu ar anghenion y rhieni.

Faint fydda i’n cael fy nhalu?

Bydd pob darparwr yn derbyn cyfradd o £5.00 yr awr i blant sy’n derbyn elfen gofal plant y cynnig.

Fedra i godi cyfradd atodol?

Na. Chewch chi ddim codi cyfraddau atodol bob yr awr os fasech chi’n arferol yn codi mwy na £5.00 yr awr.

Fedra i godi am fwyd a gweithgareddau ychwanegol?

Cewch. Os oes angen, cewch godi ar rieni am elfennau ychwanegol megis bwyd, trafnidiaeth a gweithgareddau heb fod ar y safle sy’n golygu cost. Canllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gosod ffioedd ychwanegol o dan y cynnig am sesiwn diwrnod llawn o ofal (oddeutu 10 awr) ydy na ddylid codi ar rieni mwy na £9.00 y dydd (fe fyddai hynny’n cynnwys tri phryd am £2.50 y pryd a 2 byrbryd ar gost o 75c yr un). Am sesiwn hanner diwrnod (oddeutu 5.5 awr), ni ddylid codi ar rieni mwy na £5.75 (dau bryd am £2.50 y pryd ynghyd â byrbryd ar gost o 75c yr un). Am ofal bob yn sesiwn lle nad oes pryd yn cael ei ddarparu ond bod plant yn derbyn byrbryd, y canllawiau ydy na ddylid codi ar rieni mwy na 75c am bob byrbryd a ddarperir.

Ìý

Sut ga i fy nhalu?

Yn fisol wedi derbyn taflen bresenoldeb ddilys wedi’i chwblhau’n llawn.

Sut ydw i’n cymryd rhan?

Er mwyn cyflenwi’r cynnig, cwblhewch y Ffurflen Gytundeb Darparwyr a’i dychwelyd at y tîm Cynnig Gofal Plant trwy e-bostio fis@blaenau-gwent.gov.uk

Neu trwy’r post at:

Tîm Cynnig Gofal Plant

Canolfan Plant Integredig Blaenau

Stryd Fawr

Blaenau

NP13 3BN