Dathlu Gwaith Cymdeithasol
Rhwng 26 Chwefror a 24 Mawrth mae Gofalwn Cymru yn lansio ymgyrch sy’n ymroddedig i roi sylw i rôl hanfodol gwaith cymdeithasol. Mae °¬²æAƬ yn falch i gefnogi’r ymgyrch, gan adleisio ein gweithwyr cymdeithasol ymroddedig a dangos yr effaith enfawr sydd ganddynt ar ein cymuned.
Yn ystod yr ymgyrch, gwahoddwn chi i ymuno â ni i ddathlu gwaith ysbrydoledig ein gweithwyr cymdeithasol lleol. Drwy brofiadau bywyd go iawn, geirda o’r galon ac astudiaethau achos dylanwadol, anelwn godi cwr y llen ar gyfraniadau amhrisiadwy yr unigolion hynod yma.
Deallwn bwysigrwydd meithrin dealltwriaeth ddyfnach o rôl gweithwyr cymdeithasol a’r cyfleoedd y mae’n ei chyflwyno. Drwy gydweithio gyda Gofalwn Cymru, anelwn roi sylw i’r llwybrau amrywiol a’r posibiliadau gwerth chweil o fewn maes gwaith cymdeithasol
Wrth i ni anrhydeddu’r Wythnos Gwaith Cymdeithasol rhwng 18 a 22 Mawrth 2024, byddwn yn rhannu cynnwys sy’n amlygu angerdd, cydnerthedd ac ymroddiad ein gweithwyr cymdeithasol yma ym Mlaenau Gwent. Mae’r straeon hyn yn dyst i rym trawsnewidiol gwaith cymdeithasol a’i allu i gael effaith gadarnhaol ar fywydau’r rhai a wasanaethwn.
P’un ai ydych yn ystyried gyrfa mewn gwaith cymdeithasol neu ddim ond eisiau dysgu mwy am y proffesiwn, dyma’r amser perffaith i ymchwilio’r posibiliadau. Ymunwch â ni i ddathlu’r unigolion hynod sy’n ymgorffori hanfod trugaredd, empathi ac ymroddiad.
Gyda’n gilydd, gadewch i ni roi sylw i gyfraniad amhrisiadwy ein gweithwyr cymdeithasol ac ysbrydoli eraill i ystyried llwybr gyrfa sydd wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth. Ymunwch â ni i ddathlu’r Wythnos Gwaith Cymdeithasol ac effaith enfawr gwaith cymdeithasol ym Mlaenau Gwent.
Dyma Grace: Gweithiwr Cymdeithasol ymroddedig ym Mlaenau Gwent
Dyma Grace, Gweithiwr Cymdeithasol angerddol gyda Gwasanaethau Oedolion °¬²æAƬ. Gyda diddordeb diffuant mewn cefnogi a helpu pobl, mae Grace yn cael boddhad yn ei swydd bob dydd. Mae’n gwerthfawrogi’r berthynas y mae’n ei meithrin gyda phobl ac yn teimlo’n ffodus i fod yn rhan o dîm cefnogol ym Mlaenau Gwent. Edrychwch ar ei stori a darganfod effaith gwaith cymdeithasol yn ein cymuned.
Gallwch ddarganfod gwobrau gyrfa mewn gwaith cymdeithasol gyda’n adnodd PDF diddorol a defnyddiol. Mae hyn yn cynnwys y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, timau Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant, a’r adborth cadarnhaol a straeon llwyddiant gan ein gweithwyr proffesiynol ymroddedig.
Ymchwilio Gwaith Cymdeithasol ym Mlaenau Gwent
Geirda i ysbrydoli gan Gweithwyr Cymdeithasol °¬²æAƬ
Gallwch ddarganfod grym trawsnewidiol gwaith cymdeithasol drwy eirda sy’n ysbrydoli gan ein gweithwyr proffesiynol ymroddedig ym Mlaenau Gwent. Mae’r adroddiadau go iawn yma yn dangos y cysylltiadau ystyrlon a chyfnodau o gydnerthedd sy’n diffinio ein gwaith.
Nicola Williams | Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol
“Nicola ydw i, Uwch Ymarferydd a gweithiwr cymdeithasol yn Nhîm 14+ °¬²æAƬ. Wedi dechrau fel gweithiwr cymorth yn 2012, rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth yr Awdurdod Lleol yn hybu fy ngyrfa. Mae fy swydd yn golygu grymuso plant a theuluoedd i fyw bywydau annibynnol. Er yr heriau, mae gweld eu llwyddiant yn werth y byd. Mae meithrin perthynas agos gyda nhw yn werthfawr tu hwnt. Gweld plant gyda chefndiroedd heriol yn ffynnu i fod yn oedolion hapus yw agwedd fwyaf werth chweil fy swydd a fy mhrif gymhelliant. Dydyn ni ddim yn ddewiniaid, ond rydyn ni’n grymuso teuluoedd i greu eu hud eu hunain!â€
Tia Cross | Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso
Mae bod yn weithiwr cymdeithasol dan hyfforddiant ym Mlaenau Gwent wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae’r timau a Datblygu’r Gweithlu wedi bod mor gefnogol, ac rwyf wedi tyfu cymaint, hyd yn oed drwy’r heriau. Mae fy mentor gwaith cymdeithasol, Ioana, wedi bod yn wych wrth i mi drosglwyddo i weithiwr cymdeithasol newydd gymhwyso. Yn bendant, mae gan Flaenau Gwent un o'r rhaglenni cymorth gorau ar gyfer myfyrwyr a Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso.
Nina Jones | Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso
Fel myfyriwr trydedd flwyddyn, bûm yn ffodus i gael tîm hynod gefnogol a’m harweiniodd drwy fy natblygiad, gan ddarparu anogaeth a chyfleoedd dysgu amhrisiadwy. Nawr, fel Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso (NQSW), rwy'n ddiolchgar i fod yn rhan o'r un tîm gwych, maen nhw'n parhau i gynnig yr un lefel o gefnogaeth a mentoriaeth. Mae °¬²æAƬ wedi bod yn lle gwych i dyfu’n broffesiynol, ac mae’r ymroddiad i feithrin talent newydd yma yn wirioneddol glodwiw. Rwy’n teimlo fy mod wedi fy ngrymuso ac yn hyderus yn fy rôl diolch i arweinyddiaeth gyson ac ysbrydoliaeth gan fy nghydweithwyr. Er gwaethaf yr heriau, mae grymuso a chefnogi unigolion i fyw'n annibynnol yn hynod werth chweil.