Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu gwasanaeth brys y tu allan i oriau swyddfa arferol.Ìý Mae’r gwasanaeth hwn ond yn delio â sefyllfaoedd brys nad sy’n gallu aros tan y diwrnod gwaith nesaf.
Ffoniwch ni os ydy:
- Plentyn neu berson ifanc angen eu diogelu rhag niwed ar frys.
- Rhiant, gofalydd maeth neu blentyn angen help, cyngor neu gymorth ar frys.
- Gofalydd neu oedolyn sydd mewn perygl (y rheiny sydd â phroblemau iechyd y meddwl, anableddau corfforol neu ddysgu neu bobl hyn) angen help ar frys.
Nid ydym yn gallu helpu os:
- Gall y sefyllfa aros tan y diwrnod gwaith nesaf, heb risg o niwed.
- Ydyw’n ddiwrnod gwaith.Ìý Nid ydym ar gael felly cysylltwch â’ch Gwasanaethau Cymdeithasol lleol.
- Ydyw’n argyfwng meddygol – rhaid i chi ffonio’ch meddyg neu ambiwlans.
Pwy sy’n gallu defnyddio’r gwasanaeth?
- Pobl sy’n byw ym mwrdeistrefi °¬²æAƬ, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen, sydd angen help ar frys gan Wasanaethau Cymdeithasol, os ydynt eisoes yn derbyn ein gwasanaethau neu beidio.
- Unrhyw un sy’n galw ar ran rywun arall, os ydyw’n broffesiynolwr, perthynas, ffrind neu ofalydd.
Pryd ydy’r gwasanaeth ar gael?
Mae’r gwasanaeth brys allan o oriau yn gweithredu pan fo swyddfeydd Gwasanaethau Cymdeithasol eraill ar gau.Ìý Gallwch ond ei gysylltu ar y ffôn neu ffacs.
Gwybodaeth Gyswllt
Out of Hours Service
Ffôn: 0800 328 4432
Ffacs: 01495 767057
Dydd Llun – Dydd Iau 5pm – 8.30am.
Ìý
Dydd Gwener 4.30pm tan 8.30am y Dydd Llun canlynol.
Ìý
Gwyliau’r Banc a penwythnos 24awr.