Cyflwyniad
Mae'n rhaid i ni gadw rhai cofnodion am ein hymwneud gydag unrhyw un sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Cedwir cofnodion am wahanol gyfnodau yn unol â deddfwriaeth briodol.
Os ydych yn derbyn help gennym, neu wedi derbyn help gennym, cewch fynediad i'ch cofnodion lle bynnag sy'n bosibl. Gallwch hefyd ofyn i rywun arall gysylltu â ni ar eich rhan, megis perthynas neu eiriolydd. Mewn achosion fel hyn byddai angen i ni wirio eich bod wedi rhoi caniatâd i ni ryddhau unrhyw wybodaeth.Â
Eich hawliau cyfreithiol
Mae 'gwybodaeth bersonol' yn golygu unrhyw beth a allai ddangos pwy ydych chi, fel eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni, a gwybodaeth am eich ymwneud gyda ni.
Daw gwybodaeth bersonol amdanoch chi a gedwir ar gyfrifiadur hefyd o fewn Deddf Diogelu Data 1998. Mae hyn yn dweud, gyda rhai eithriadau, fod gennych hawl mynediad i wybodaeth bersonol a gedwir amdanoch.
Eithriadau
Mae rhai amgylchiadau pan efallai na fydd gwybodaeth ar gael, sef:
- lle mae gwybodaeth am berson arall;
- gwybodaeth am atal a datrys troseddau;
- gwybodaeth sydd wedi'i chyfyngu’n gyfreithiol (cofnodion mabwysiadu yn bennaf);
- mewn amgylchiadau eithriadol iawn, os oes risg o anaf.
Sut gallaf ofyn am gael gweld fy ffeil?
Ysgrifennwch at:
Adran Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB
Dylai eich llythyr gynnwys eich enw, cyfeiriad a'ch dyddiad geni a digon o fanylion i ni wybod pwy ydych a gwybod pa wybodaeth yr ydych ei heisiau.
Byddwn yn ysgrifennu atoch i gydnabod eich cais o fewn 5 diwrnod gwaith. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth i chi o fewn 40 diwrnod o dderbyn eich cais.
Mae'n rhaid i ni ymgynghori gyda gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill, er enghraifft yr Awdurdod Iechyd, cyn rhoi gwybodaeth i chi a gawsom ganddynt amdanoch chi.
Beth os gwrthodir mynediad i mi?
Os dywedir wrthych na chaniateir i chi weld eich ffeil bersonol, mae gennym hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn drwy gysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol yn y cyfeiriad ar dudalen 2 er mwyn cael mynediad i weithdrefn gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol.
Beth os oes camgymeriadau yn fy ffeil?
Er mwyn sicrhau fod yr wybodaeth a ddelir yn gywir, os oes camgymeriadau ffeithiol yn eich ffeil, mae gennych hawl i gael cywiro'r camgymeriadau hyn a dileu unrhyw wybodaeth ddiangen.
Mae gennych hawl i apelio os dywedwn wrthych na chaiff y ffeil ei newid (fel yr amlinellir uchod).
Gwybodaeth Gyswllt
I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:
- person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
- plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â hyb IAA Gwasanaethau Plant
IAA Gwasanaethau Oedolion
Ffôn: 01495 315700
·¡-²ú´Ç²õ³Ù:ÌýDutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350
IAA Gwasanaethau Plant
Ffôn: 01495 315700
·¡-²ú´Ç²õ³Ù:Ìýduty.team@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350
Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
·¡-²ú´Ç²õ³Ù:Ìýinfo@blaenau-gwent.gov.uk
Pencadlys:
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB
Ffôn: (01495) 354680
Ffacs: (01495) 355285