Rhoi gwybod am ddigwyddiad lle cafwyd llifogydd
A yw’n achos brys?
Os yw dŵr yn dod i mewn i’ch eiddo neu os oes perygl i fywyd, galwch y gwasanaethau brys ar 999
Os yw’ch eiddo dan ddŵr ac angen siarad â rhywun am fwy o wybodaeth, cysylltwch o Tu allan i oriau gwaith 01495 311556
Llifogydd o’r Priffyrdd
Dylid hysbysu Adran y Priffyrdd o lifogydd a achoswyd gan ddraeniau neu gwteri’n gorlifo o fewn y rhwydwaith priffyrdd a reolir gan y Cyngor ar y manylion cyswllt isod:
- Ffôn: 01495 311556
Dylid rhoi gwybodaeth am lifogydd a achoswyd gan ddraeniau neu gwteri’n gorlifo ar Gefnffyrdd (A465) i
Llifogydd o afonydd
‘Prif afonydd’
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am reoli llifogydd o’r afonydd mwy o faint, a elwir yn ‘brif afonydd’. O fewn °¬²æAƬ y rhain yw:
- Afon Sirhywi
- Afon Ebwy
- Afon Ebwy Fach
Dylid hysbysu llifogydd o brif afonydd i linell gymorth digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0800 80 70 60 (24-awr)
Er mwyn gwrando ar wybodaeth yn ymwneud â rhybuddion llifogydd yn eich ardal neu siarad â rhywun am gyngor, galwch 0845 986 1188 (24-awr) (Dalier sylw: Mae galwadau i'r rhif hwn yn costio 5c y funud ynghyd â ffi defnydd eich cwmni ffôn).
Afonydd eraill
Mae cyrsiau dŵr llai, heb eu dosbarthu fel ‘prif afonydd’ yn syrthio dan gyfrifoldeb y Cyngor. Cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, ar 01495 311556
Llifogydd o garthffos gyhoeddus, neu brif bibell ddŵr wedi torri neu bibell gwasanaeth dŵr
Dylid hysbysu llifogydd o’r ffynonellau hyn i Dŵr Cymru Welch Water ar 0800 0853968 (24-awr)
Llifogydd o bob ffynhonnell arall
Y Cyngor sy’n gyfrifol am reoli’r risg sy’n codi o lifogydd o ddŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin (cyrsiau dŵr llai a ffosydd)
Os ydych yn profi llifogydd o ddŵr wyneb (yn rhedeg neu’n cronni’n bwll) dŵr daear neu unrhyw gyrsiau dŵr llai neu ffosydd (cyrsiau dŵr cyffredin) cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, ar 01495 311556.
Digwyddiadau llifogydd hanesyddol
Bydd gwella’n gwybodaeth a’n dealltwriaeth o ddigwyddiadau llifogydd hanesyddol ar draws y fwrdeistref yn ein cynorthwyo i ffocysu’n hadnoddau a’n cyllid tuag at yr ardaloedd hynny sydd yn fwyaf tebygol o brofi llifogydd.
Rydym yn gweithio i sefydlu tudalen we i ganiatáu i chi lanlwytho gwybodaeth sydd gennych mewn perthynas â digwyddiadau cyfredol a hanesyddol o ddigwyddiadau o lifogydd.
Yn y cyfamser os oes gennych unrhyw wybodaeth berthnasol ar ddigwyddiadau hanesyddol o lifogydd, gan gynnwys lluniau, anfonwch wybodaeth, os gwelwch yn dda, i’r tîm cynllunio polisi gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
Gwybodaeth Gyswllt
Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda â
Gwasanaethau Datblygu
Adran Gwasanaethau Technegol
Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ
Swyddfa Uniongyrchol Blaenau
Blaenau
NP13 3XD
E-bost: planningpolicy@blaenau-gwent.gov.uk
Am wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda, â
Carthffosydd Cyhoeddus/ dŵr brwnt a dŵr wyneb
Cyswllt - Dŵr Cymru 0800 085 3968
Yr holl faterion draenio sy’n gysylltiedig ag afonydd
Cyswllt – Cyfoeth Naturiol Cymru: 03708 506 506
Draenio Priffyrdd a Thir
Cyswllt - C2BG 01495 311556