°¬²æAƬ

Etholiadau Cyngor °¬²æAƬ 2022

Cynhelir etholiadau Llywodraeth Leol a Chynghorau Cymuned yng Nghymru ym mis Mai 2022.

Ym Mlaenau Gwent bydd etholiadau ar gyfer 33 cynghorydd bwrdeistref sirol a 69 cynghorydd cymuned a thref.

Bydd manylion pa etholiadau a gynhelir yn eich ardal, a pha ymgeiswyr sy’n sefyll, ar gael ar ein gwefan o 6 Ebrill 2022.

Pwy all bleidleisio?

Gall unrhyw breswylydd ym Mlaenau Gwent sy’n 16 oed neu drosodd bleidleisio yn yr etholiadau hyn. Gall dinasyddion tramor sydd â chaniatâd i fod yma bleidleisio hefyd.

Dim ond pobl sydd wedi cofrestru ar y gofrestr etholiadol all bleidleisio. Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn 14 Ebrill 2022 i bleidleisio yn yr etholiadau ym mis Mai. Gallwch gofrestru ar-lein yn |

Os na fedrwch gofrestru ar-lein, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n tîm etholiadau ar electoral.services@blaenau-gwent.gov.uk neu 01495 355086.

Pryd fyddaf yn gwybod beth yw’r canlyniad?

Caiff y pleidleisiau eu cyfrif ddydd Gwener 6 Mai 2022. Drwy gydol prynhawn a min nos 6 Mai 2022 bydd canlyniadau’r etholiad ar gael ar wefan y Cyngor i chi weld y canlyniadau a phwy yw eich cynghorwyr newydd.

Diddordeb mewn sefyll yn yr etholiadau?

Anfonwch E-bost at y tîm etholiadau yn electoral.services@blaenau-gwent.gov.uk i gofrestru ar gyfer gwybodaeth yn ymwneud â’r etholiad, yn cynnwys dyddiadau ar gyfer briffiadau ymgeiswyr. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y dudalen Gwybodaeth i YmgeiswyrÌý³Ù³Ü»å²¹±ô±ð²Ô.

Mae angen i ymgeiswyr sy’n dymuno sefyll ar gyfer etholiad gyflwyno papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau rhwng dydd Llun 21 Mawrth a 4pm ddydd Mawrth 5 Ebrill 2022.