Hysbysiad Cyhoeddus
Adran 23 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 Croesfan Arfaethedig i Gerddwyr ar Heol Darrenfelin, Bryn-Mawr
Rhoddir HYSBYSIAD drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ, wrth arfer ei bwerau
o dan adran 23 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a phob pŵer galluogi arall, yn cynnig y canlynol:
a. Gosod croesfan twcan yn y lleoliad a ddisgrifir yn yr atodlen i’r hysbysiad hwn.
Rheswm dros y cynnig: Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ wedi nodi Heol Darrenfelin fel lleoliad addas ar gyfer cyfleuster croesfan twcan.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ wedi llwyddo i gael cyllid i weithredu cyfleuster croesfan fel rhan o waith i ddatblygu llwybr teithio llesol i wella teithiau i gerddwyr a beicwyr a bod o fudd i’r gymuned ehangach.
Bydd y gwaharddiad arferol ar gerbydau yn berthnasol, gan eu hatal rhag stopio, aros, llwytho a dadlwytho ar y gerbytffordd o fewn y mannau sydd wedi’u nodi gan linellau igam-ogam o boptu’r groesfan.
Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwrthwynebu’r gorchmynion arfaethedig anfon datganiad ysgrifenedig gydag unrhyw sylwadau yn ymwneud â’r cynigion at
Mr C. Rogers, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, NP23 6DN.
Dylai unrhyw sylwadau gael eu hanfon a’u cyrraedd o fewn 21 diwrnod i gyhoeddi’r hysbysiad a chael eu marcio’n glir:
At sylw Mr C. Rogers”. Fel arall, gallwch anfon e-bost
at: BSEnvAndRegen@blaenau-gwent.gov.uk
Bydd y cyngor bwrdeistref sirol yn ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r hysbysiad hwn. Gellir eu lledaenu’n eang at y dibenion hyn a’u gwneud ar gael i’r cyhoedd.
Gellir gweld cynlluniau ac atodlenni ar wefan °¬˛ćAƬ.
DYDDIEDIG: 5 Rhagfyr, 2024
CLIVE ROGERS
Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol