°¬²æAƬ

Cwestiynau cyffredin

Beth am rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg!

Gyda’r rhan fwyaf o rieni yn ein hardal heb fod yn siarad Cymraeg, mae systemau cymorth wedi sefydlu’n dda yn Gymraeg a Saesneg ar gael yn ein hysgol Gymraeg

Beth am eu sgiliau yn y Saesneg?

Bydd plant yn rhugl yn y Gymraeg pan adawant yr ysgol gynradd a hefyd mor rhugl yn Saesneg â phlant o ysgolion cyfrwng Saesneg.

Pam addysg cyfrwng Cymraeg?

Mae safon yr addysg yn rhagorol,, mae’n rhwydd i blant ddysgu iaith ac maent yn gallu mwynhau eu bywyd yn Gymraeg ac yn Saesneg!

Ond mae fy mhlentyn eisoes wedi dechrau ar daith addysg mewn ysgol cyfrwng Saesneg.

Gall plant ddechrau mewn ysgol gynradd Gymraeg ar unrhyw adeg. Mae unedau trochi arbennig yn ein hysgolion lle gellir trochi disgyblion yn y Gymraeg cyn iddynt fynd i ystafell ddosbarth.

Sut gall fy mhlentyn gyrraedd ein hysgol Gymraeg leol?

Mae °¬²æAƬ yn darparu cludiant am ddim i’r ysgol gyda disgyblion sy’n byw 1.5 milltir neu fwy o’r ysgol gynradd Gymraeg agosaf a 2 filltir neu fwy o’r ysgol uwchradd Gymraeg agosaf.

A allaf helpu fy mhlentyn gyda gwaith cartref yn y Gymraeg?

Gallwch. Gan nad yw’r rhan fwyaf o blant yn siarad Cymraeg gartref, mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn brofiadol iawn wrth gefnogi disgyblion a rhieni. Bydd yr ysgol yn darparu’r gwaith yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ìý

Ar gyfer disgyblion iau, caiff cyfarwyddiadau ar gyfer gwaith cartref eu rhoi mewn ysgrifen yn Gymraeg a hefyd yn Saesneg. Maes o law, gall plant esbonio eu gwaith i’w rhieni eu hunain. Mewn gwirionedd, mae ymchwil yn awgrymu y gall delio â’u gwaith mewn dwy iaith helpu plant i ddeall y pwnc y maent yn ei astudio. Mae gwefan addysg Hwb Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi mynediad i amrywiaeth o ddulliau dysgu digidol ac adnoddau sydd ar gael yn genedlaethol.