°¬²æAƬ

Walter Conway

Cafodd John Walter Conway ei eni ar 30 Hydref 1872 yn Plantation Street, Rhymni, yr hynaf o 2 frawd. Bu ei fam farw pan oedd yn blentyn a symudodd y teulu i Dredegar. Yn drist, bu ei dad farw hefyd yn fuan ar ôl symud  gan adael Walter a’i frawd Thomas yng ngofal Tloty Undeb Bedwellte. Roedd y meistr yn Nhwyn y Ddraenen yn annog yr holl drigolion i gael addysg gadarn. Pan oedd yno, datblygodd Walter ei gariad at lyfrau, gan gyfeirio atynt yn aml fel ei gyfeillion gorau a chafodd ei ddysgu i ‘wneud popeth yn dda’, mantra a arhosodd gydag ef ar hyd ei fywyd.

Ar ôl gadael y tloty, symudodd i lojins a daeth yn löwr ym mhwll  Rhif 1 Pochin. Roedd Walter yn aelod cynnar o’r Blaid Lafur Annibynnol, gan ymuno ac wedyn ddod yn aelod sefydlu cangen Tredegar yn 1911.

Priododd Walter â Mary Elizabeth Morgan ar 19 Rhagfyr 1898 a chafodd y cwpl 3 merch a mab. Addolai’r teulu yn Eglwys Bresbyteraidd Park Place lle’r oedd Walter yn ddiacon ac athro ysgol Sul.

Cafodd ei ethol i Fwrdd Gwarcheidwaid 1908, y sefydliad a fu’n gyfrifol am ei ofal cynnar yn y tloty. Cafodd Walter ei benodi yn ysgrifennydd y Gymdeithas Cymorth Meddygol yn 1915, a dyfodd dros y 18 mlynedd nesaf dan ei stiwardiaeth i fod yn un o’r cymdeithasau gorau, gan ddenu aelodau o ardal ehangach. Roedd Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar yn darparu gwasanaethau meddygol i 20,000 o bobl leol, tua 95% o boblogaeth y dref. Roedd y gymdeithas yn gweithredu meddygfeydd oedd yn cyflogi 5 meddyg, 2 ddeintydd, nyrsys a staff cefnogaeth.

Roedd Walter hefyd yn fentor i’r Aneurin Bevan ifanc. Yn 1920 ffurfiodd Walter a’i ffrindiau, yn cynnwys Aneurin Bevan ifanc, y Query Club, cymdeithas drafod sosialaidd. Roedd aelodau’r clwb hefyd yn talu tanysgrifiad wythnosol i greu cronfa yswiriant ar gyfer ei aelodau os oeddent yn canfod eu hunain mewn trafferthion ariannol. Pan ddaeth Bevan yn Weinidog Tai ac Iechyd yn y llywodraeth Lafur yn dilyn y rhyfel, dychwelodd at ddylanwad Walter, y Query Club a Chymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar, am ysbrydoliaeth i greu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Bu farw Walter ar 13 Chwefror 1933 ac er y gwelodd ei ddisgybl yn cael ei ethol yn AS, ni welodd greu’r GIG, yn seiliedig ar waddol Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar. Fodd bynnag, mae’r atgofion am Walter yn parhau yn fyw yn Nhredegar lle caiff ei gydnabod yn Walter Conway Avenue, Amgueddfa Tredegar, y Ganolfan Treftadaeth ac mewn cofeb ar fainc wrth ochr Nye Bevan.