Safonau’r Iaith Gymraeg
Cafodd y Cynllun Iaith Gymraeg statudol blaenorol a gymeradwywyd dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ei ddisodli gan ofynion Safonau’r Gymraeg.
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn mynd ati i foderneiddio’r fframwaith cyfreithiol ynglÅ·n â defnyddio’r Gymraeg wrth gyflawni gwasanaethau cyhoeddus. Ym Medi 2015, rhoddwyd Nodyn Cydymffurfio i Gyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ , oedd yn nodi’r gofyn i weithredu 171 o’r 176 o Safonau’r Gymraeg. (Gweler y cyswllt isod)
Nod Safonau’r Gymraeg yw:
- Gwella’r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu cael gan sefydliadau penodol yn y Gymraeg;
- Cynyddu’r defnydd y mae pobl yn ei wneud o wasanaethau Cymraeg;
- Ei gwneud yn glir i sefydliadau beth sydd angen iddynt ei wneud o ran y Gymraeg; a
- Sicrhau bod cysondeb priodol o ran y dyletswyddau a roddir ar gyrff yn yr un sectorau.
Dan Safonau 158, 164 a 170, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ ddyletswydd i gynhyrchu Adroddiad Blynyddol yn Gymraeg ar yr Iaith Gymraeg. (Gweler y cyswllt isod). Rydyn ni’n falch i gyflwyno ein Hadroddiad Blynyddol Monitro’r Iaith Gymraeg 2020-2021 sydd yn canolbwyntio ar y cynnydd a gwnaed gan yr awdurdod lleol ar gyfer cydymffurfio â’r Safonau.
Dan Safon 145, mae’n rhaid i’r Cyngor gynhyrchu a chyhoeddi Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg bum mlynedd (gweler y cyswllt isod) sy’n nodi sut mae’r Cyngor yn bwriadu hyrwyddo’r Gymraeg a hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn fwy eang ym Mlaenau Gwent.
Dogfennau Cysylltiedig
- Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2023-24
- Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2022-23
- Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg 2022 - 2027
- Cyngor °¬²æAƬ Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2021-2022
- Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2020/21
- Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2019/20
- Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer yr Iaith Gymraeg 2018/2019
- Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer yr Iaith Gymraeg 2017/2018
- Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2016-17
- Adroddiad Cymraeg 2015-16
- Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg 2017-2022
- Hysbysiad Cydymffurfio Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ
- Safonau-r gymraeg (materion atodol)
- Polisi ar Ddyfarnu Grantiau yn Cyngor Bwrdeistref Sirol